Mae Uned Difa Bomiau’r Fyddin wedi cynnal ffrwydrad dan reolaeth yn un o adeiladau Llywodraeth Prydain yng Nghasnewydd y prynhawn yma.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd toc wedi 8 fore heddiw ar ôl i staff dderbyn pecyn amheus yn y post.
Cafodd ffrwydrad dan reolaeth ei gynnal tua 12:20 prynhawn heddiw ac mae staff yr adeilad wedi cael dychwelyd i’w swyddfa erbyn hyn.
Ymchwiliad
Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gwent y bydd ymchwiliad manwl gan yr heddlu nawr yn dechrau.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw eisiau “diolch i bawb am eu hamynedd y bore yma” tra’r oedden nhw’n diogelu’r ardal.
Mae’r heddlu hefyd yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffoniwch 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 90 19/08/16.