Llyfr Gareth Roberts am fathemateg
Mae mathemategydd sydd wedi bod yn gosod posau mathemateg bob dydd ers 2012 yn mynd i ddechrau gosod posau i blant bach hefyd – er mwyn codi diddordeb yn y maes.

O fis Medi ymlaen, yn dilyn cais gan ysgolion cynradd ledled Cymru bydd posau dydd Gwener yn cael eu targedu’n benodol at blant rhwng 6 ac 8 oed.

“Dwi wedi bod yn gwneud posau sy’n tueddu i fod ar gyfer oedolion neu plant ysgolion uwchradd. Ond ro’n i’n derbyn lluniau o waith plant iau wrthi’n gwneud y posau yn y dosbarth felly dwi am ddechrau posau bach fel arbrawf a gweld ble mae o’n mynd,” meddai Gareth Ffowc Roberts sy’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor.

Fe fydd y posau hyn yn cael eu postio’n defnyddio’r hashnod #posbach ar Twitter ac yn ôl Gareth Ffowc Roberts fe fyddan nhw’n adnodd i athrawon a rhieni fel ei gilydd ac yn rhoi hwb i’r ddelwedd o fathemateg fel profiad i’w fwynhau.

Y posau

Bob dydd, o ddydd Llun tan ddydd Gwener ers pedair blynedd, mae Gareth Ffowc Roberts yn trydar pos mathemategol – gan ddefnyddio’r hashnod #posydydd yn Gymraeg a #puzzleoftheday yn Saesneg – ac yn rhoi’r atebion bob nos.

Ond wedi iddo fod wrthi’n cynhyrchu’r posau bump diwrnod yr wythnos ers pedair blynedd, oes pryder y bydd y syniadau’n sychu maes o law?

“Pan ddechreuais i, ro’n i’n meddwl y byswn i ‘di gorffen erbyn y ‘Dolig,” esbonia. “Ond mae’r syniadau’n dod o bob math o lefydd ac i raddau helaeth, mae hynny oherwydd brwdfrydedd y pobl sy’n dilyn. Mae o’n cynnal ei hun bron iawn.

“Er hynny, dw i’n gofyn i mi fy hun bob wythnos os oes gen i ddigon ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.”

“Mae cael hwyl yn bwysig iawn – bod bobl yn uniaethu mathemateg gyda mwynhau. Mae plant heddiw’n gynhenid yn hoffi mathemateg o’i gymharu a’r cenedlaethau o’r blaen ac mae’n nhw’n sylwi bod budd i mathemateg mewn pob rhan o fywyd.”

Bydd y #posbach cyntaf yn cael ei lansio ar gyfri Twitter @GarethFfowc ddydd Gwener, 9 Medi, am hanner awr wedi saith y bore, a phob bore Gwener wedi hynny.

Enghraifft o #posbach

Mae Gareth Ffowc Roberts wedi rhoi enghraifft o’r posau bach y bydd yn ei bostio. Allwch chi gyflawni’r pos yma?  Does dim gwobr, dim ond y tawelwch meddwl eich bod yn gallu ateb pos sydd wedi ei gynllunio ar gyfer plant  6 i 8 mlwydd oed.

“Mae gan Jo ddewis o ddwy sgarff (pinc neu las) a thair côt (du, coch neu wyrdd). Sawl cyfuniad gwahanol yw hynny?”