Mae gweithwyr un o adeiladau Llywodraeth Prydain yng Nghasnewydd wedi gorfod gadael y swyddfeydd ar ôl i becyn amheus gael ei dderbyn yn post.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd toc wedi 8 fore heddiw ar ôl i staff dderbyn yt eitem.
Mae swyddogion o Heddlu Gwent ac uned difa bomiau y fyddin yno ar hyn o bryd yn asesu’r pecyn.
Mae’r adeilad wedi cael ei wagio, rhag ofn.
Asesu’r peryg
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Glyn Fernquest o Heddlu Gwent: “Hoffem sicrhau’r cyhoedd ein bod yn cydweithio’n agos â gwasanaethau brys eraill i asesu’r digwyddiad hwn.
“Mae diogelwch y gweithlu a thrigolion lleol yn hollbwysig ac rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.”
Does dim ffyrdd yn yr ardal wedi’u cau.