Bydd miloedd o fyfyrwyr ar draws Cymru yn casglu eu canlyniadau Lefel A heddiw – y tro olaf fydd y canlyniadau allu cael eu cymharu’n uniongyrchol â Lloegr.

Yn hytrach, bydd y rhai sy’n casglu eu canlyniadau lefel AS heddiw wedi bod yn dilyn cyrsiau a ddyfeisiwyd yng Nghymru sy’n wahanol i’r rhai caiff eu dilyn gan eu cyfoedion yn Lloegr.

Cymwysterau Cymru, a lansiwyd fis Medi diwethaf, sydd nawr yn gyfrifol am reoleiddio pob cymhwyster ar wahân i raddau prifysgol yng Nghymru.

Llynedd

Y llynedd, roedd canran o fyfyrwyr Lefel A yng Nghymru oedd wedi cael y radd uchaf o A* wedi codi i’r lefel uchaf.

Dangosodd ffigurau swyddogol bod cynnydd yn nifer disgyblion a gafodd y radd orau o 6.7% yn 2014 i 7.3% – y gorau ers ei gyflwyno yn 2010.

Ond roedd y nifer o fyfyrwyr a gafodd raddau A* i E wedi disgyn ryw fymryn o 97.5% i 97.3%.

Clirio

I’r rhai sydd ddim yn cael y graddau angenrheidiol i fynd i’w dewis Prifysgol cyntaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio i helpu darpar fyfyrwyr gyda’r broses glirio ac egluro’r camau y mae angen i ddarpar fyfyrwyr eu cymryd.

Ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd, daeth tua 64,000 o unigolion o hyd i le mewn prifysgol drwy’r broses glirio

‘Pob hwyl’

Dywedodd ysgrifennydd addysg Llywodraeth Cymru Kisrty Williams ar Twitter: “Pob hwyl i’r rhai sy’n aros yn eiddgar am eu #canlyniadau – rwy’n cofio’r nerfau a gwylio’r cloc yn rhy dda.”