Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi lladrad o siop Wickes Trade and DIY Store ar Barc Manwerthu Gallagher Gallagher, Caerffili, tua 6yh ddydd Mawrth, Awst 9.

Fe ddaeth tri – efallai pedwar – dyn i mewn i’r siop, a thra’r oedd un ohonyn nhw’n dwyn sylw aelodau staff, fe aeth y lleill ati i ddwyn eitemau.

Yn ystod y cyfnod hwn, meddai’r heddlu, fe gafodd saith uned cawod eu dwyn. Fe gafodd dau o’r bocsys eu darganfod y tu allan i’r siop yn ddiweddarach.

Mae Heddlu Gwent yn rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o’r dynion, yn y gobaith y bydd pobol yn eu nabod ac yn dod ymlaen gyda gwybodaeth.