Nathan Gill (Llun: UKIP)
Mae ymgeisydd am arweinyddiaeth UKIP wedi dweud nad oes gan Nathan Gill fawr o ddewis ond ymddiswyddo o’r blaid.

Gwnaeth Lisa Duffy, y cynghorydd lleol o Swydd Gaergrawnt, ei sylwadau cyn hysting y bleidlais arweinyddiaeth yng Nghasnewydd neithiwr.

Dywedodd hefyd ei bod hi o’r barn bod Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol UKIP wedi gwneud y penderfyniad iawn yn cynnal pleidlais ar p’un ai yw hi’n dderbyniol i Nathan Gill ddal dwy swydd – fel AC ac fel Aelod o Senedd Ewrop.

Torri i ffwrdd

Cyhoeddodd Nathan Gill ddoe y bydd yn gadael gwrp UKIP yn y Cynulliad ac yn eistedd fel Aelod Cynulliad annibynnol ym Mae Caerdydd.

Ar ôl cyhoeddi ei fod yn gadael y grŵp UKIP yn y Cynulliad, mynnodd Mr Gill byddai’n parhau i fod yn arweinydd y blaid yng Nghymru.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran UKIP nad yw Nathan Gill yn arweinydd UKIP yng Nghymru bellach chwaith a bod ei arweinyddiaeth wedi dod i ben pan gafodd ei ddiarddel o’r blaid am wrthod ymddiswyddo o un o’i ddwy swydd.

Meddai’r llefarydd: “Mae Mr Gill ei hun wedi dweud nad i unigolion wnaeth pleidleiswyr UKIP Cymru eu hethol ond i’r blaid felly dylai wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo o’i sedd a gadael i’r Ukipper nesaf ar y rhestr gymryd ei le yn y Cynulliad.”

Wrth ymateb i’r newyddion am benderfyniad Nathan Gill, dywedodd Neil Hamilton wrth BBC Cymru na fydd llawer o wahaniaeth yn amgylchiadau’r blaid gan nad ydyn nhw’n gweld llawer o Nathan Gill yn y Cynulliad pryn bynnag.