Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o danseilio Cymdeithas Bêl-droed Cymru tros ffrae yn ymwneud â diffyg tîm pêl-droed i ferched Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Rio.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Cymdeithas Bêl-droed Cymru o “genedlaetholdeb bitw” am ei bod yn gwrthwynebu sefydlu tîm Prydain yn sgil pryderon am ddyfodol y gwledydd unigol pe baen nhw’n penderfynu uno ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Yr un yw safbwynt cymdeithasau pêl-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn ôl y Ceidwadwyr, roedd eu penderfyniad yn “ergyd drom” i’r gamp, a dywedodd yr arweinydd Andrew RT Davies fod y penderfyniad yn “anfaddeuol”.
Dywedodd llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George y gallai tîm Prydain fod wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched i chwarae pêl-droed.
Mae FIFA wedi awgrymu yn y gorffennol na fyddai sefydlu tîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn peryglu statws y gwledydd unigol ar y llwyfan rhyngwladol.
Cyfle “anhygoel” Rio
Mewn datganiad, dywedodd Andrew RT Davies fod “Rio 2016 yn gyfle anhygoel i hybu pêl-droed i ferched ar y llwyfan mwyaf, a gwnaeth cenedlaetholdeb bitw ddal datblygiad y gêm yn ôl”.
Ychwanegodd fod hynny’n “anfaddeuol” a “rhaid iddo beidio digwydd eto”.
“Rydym wedi cael sicrwydd droeon na fydd hunanreolaeth ein timau cenedlaethol yn cael ei effeithio, ac eto ry’n ni’n canfod ein hunain yn ôl yma unwaith eto.”
Ychwanegodd y byddai datblygu’r gamp yn “adeiladu momentwm, neu’n datblygu’r llawr gwlad ac yn cynyddu profiad twrnament ein chwaraewyr gorau”.
“Rwy’n sicr nad ydw i ar fy mhen fy hun wrth deimlo bod absenoldeb tîm pêl-droed merched Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd wedi bod yn ergyd drom i’r gêm.”
Ychwanegodd Russell George: “Mae chwaraewyr fel Jess Fishlock wedi cael eu hamddifadu o’r cyfle i gael profiad rhyngwladol sylweddol ac i gynrychioli tîm GB yn yr un modd ag y mae cynifer o sêr chwaraeon eraill yng Nghymru’n ei wneud yn y Gemau Olympaidd.”
Codi proffil
Yn ôl Plaid Cymru, mae angen rhoi hwb i broffil pêl-droed a champau eraill i ferched drwy ffyrdd eraill.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd chwaraeon Plaid Cymru, Neil McEvoy: “Chwarae dros Gymru yw’r anrhydedd fwyaf i unrhyw Gymro neu Gymraes. Nid oes dim o gwbl yn bitw am chwarae gyda balchder a gyda’r ddraig ar eich crys.
“Nid yw’n syndod nad fel yna mae’r Ceidwadwyr yn ei gweld hi. Maent yn ymddangos yn benderfynol o danseilio Cymdeithas Pel Droed Cymru ar bob cyfle, gyda gemau rhagbrofol Cwpan y Byd mewn ychydig wythnosau.
“Bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r FAW.
“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gynyddu proffil timau chwaraeon benywaidd. Dyna pam ein bod yn ymgyrchu dros i ddarlledwyr gynyddu cyfanswm eu hamser darlledu a chyllido i chwaraeon benywaidd.
“Mae ein timau chwaraeon yn dangos sut y mae Cymru gyda’n gilydd yn gryfach. Mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr yn ceisio eu tanseilio yn dangos yn union pa mor wan a rhanedig yw eu plaid.”