Hannah Mills a Saskia Clark (Llun: PA)
Dim ond gorffen y ras yw’r nod i’r Gymraes Hannah Mills a’i phartner Saskia Clark wrth iddyn nhw fynd am fedal aur yn yr hwylio 470 yng Ngemau Olympaidd Rio.

Mae’r ras yn dechrau am 5.05yp heddiw.

Mae Mills a Clark 20 pwynt ar y blaen ar ôl gorffen yn ail ac yn drydydd mewn rowndiau blaenorol. Maen nhw wedi ennill tair ras ar y ffordd, ac wedi gorffen ymhlith yr wyth uchaf ym mhob un ras.

Ond fydd y Cymro arall yn yr hwylio, Chris Grube a’i bartner Luke Patience, sy’n chweched ar hyn o bryd, ddim yn cael medal y tro hwn.