Mae “cenedlaetholdeb bitw” yn bygwth statws pêl-droed i ferched yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi beirniadu Cymdeithas Bêl-droed Cymru am wrthwynebu sefydlu tîm GB ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Roedd cymdeithasau pêl-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, oedd yn golygu nad oes gan Brydain dîm yn Rio de Janeiro.
Yn ôl y Ceidwadwyr, roedd eu penderfyniad yn “ergyd drom” i’r gamp, a dywedodd yr arweinydd Andrew RT Davies fod y penderfyniad yn “anfaddeuol”.
Dywedodd llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George y gallai tîm Prydain fod wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched i chwarae pêl-droed.
Mae FIFA wedi awgrymu yn y gorffennol na fyddai sefydlu tîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn peryglu statws y gwledydd unigol ar y llwyfan rhyngwladol.
Cyfle “anhygoel” Rio
Mewn datganiad, dywedodd Andrew RT Davies fod “Rio 2016 yn gyfle anhygoel i hybu pêl-droed i ferched ar y llwyfan mwyaf, a gwnaeth cenedlaetholdeb bitw ddal datblygiad y gêm yn ôl”.
Ychwanegodd fod hynny’n “anfaddeuol” a “rhaid iddo beidio digwydd eto”.
“Rydym wedi cael sicrwydd droeon na fydd hunanreolaeth ein timau cenedlaethol yn cael ei effeithio, ac eto ry’n ni’n canfod ein hunain yn ôl yma unwaith eto.”
Ychwanegodd y byddai datblygu’r gamp yn “adeiladu momentwm, neu’n datblygu’r llawr gwlad ac yn cynyddu profiad twrnament ein chwaraewyr gorau”.
“Rwy’n sicr nad ydw i ar fy mhen fy hun wrth deimlo bod absenoldeb tîm pêl-droed merched Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd wedi bod yn ergyd drom i’r gêm.”
Ychwanegodd Russell George: “Mae chwaraewyr fel Jess Fishlock wedi cael eu hamddifadu o’r cyfle i gael profiad rhyngwladol sylweddol ac i gynrychioli tîm GB yn yr un modd ag y mae cynifer o sêr chwaraeon eraill yng Nghymru’n ei wneud yn y Gemau Olympaidd.”