Daeth rhediad di-guro Solihull i ben yn y Gynghrair Genedlaethol neithiwr, wrth i Mark Carrington rwydo ar ôl 93 o funudau i sicrhau’r triphwynt i Wrecsam.

Hon oedd buddugoliaeth gynta’r Cymry yn y Cae Ras y tymor hwn.

Gwnaeth ymosodiadau Wrecsam ddwyn ffrwyth yn y pen draw, yn dilyn cyfleoedd da i John Rooney a Hamza Bencherif yn gynharach yn y gêm.

Wrecsam: Jalal, Edwards, Riley, Carrington, Newton, Bencherif, Barry (Bakare), Tilt, McDonagh (Powell), Rutherford, Rooney

Goliau: Carrington (93)

Cardiau melyn: Newton

Solihull: Lewis, Fagbola, Daly, Byrne, Franklin, Gough, Murombedzi, Osborne (Beswick), Knights, Asante (Sterling-James), White (Brown)

Cardiau melyn: Osborne

Torf: 4,017