Collodd Casnewydd o 2-1 nos Fawrth oddi cartref yn Luton, er i’r Saeson orffen y gêm gyda dim ond deg dyn ar y cae.

Roedd dwy gic o’r smotyn yn ddigon i’r Saeson gipio’r triphwynt ar ddiwedd gêm gorfforol.

Cameron McGeehan sgoriodd gyda’r ddwy gic o ddeuddeg llathen – y gyntaf wedi tacl flêr gan Jamie Turley ar Danny Hylton ar ôl 62 o funudau.

Daeth Casnewydd yn gyfartal ar ôl 70 munud o gic gornel, wrth i Jennison Myrie-Williams rwydo.

Cafodd Johnny Mullins ei anfon o’r cae gyda chwe munud yn weddill, ac fe rwydodd McGeehan o’r smotyn am yr ail waith yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau i sicrhau’r fuddugoliaeth i Luton, ar ôl i Darren Jones wthio Pelly Ruddock i’r llawr.

Luton: Walton, O’Donnell, Mullins, Cuthbert, Potts, Lee, Ruddock, Cook (Famewoat), McGeehan, Hylton, Marriott (Vassell)

Goliau: McGeehan (62 c.o.s, 90 c.o.s)

Cardiau melyn: Mullins

Cardiau coch: Mullins

Casnewydd: Day, Turley, Jones, Bennett, Butler, Green (Barnum-Bobbat), Randall (Tozerat), Labadie, Myrie-Williams, Jackson (Parkin), Rigg

Goliau: Myrie-Williams (70)

Cardiau melyn: Jones, Butler, Randall, Tozer, Myrie-Williams, Parkin

Torf: 7,058