O'r chwith i'r dde: Marged Rhys, Carwyn Ellis, Elan Rhys a Gwilym Bowen Rhys.
Mae aelodau o Plu a Colorama wedi cyhoeddi y bydd eu halbwm ar y cyd yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Hydref.
Mae’r albwm Bendith yn ffrwyth llafur prosiect rhwng y band dwy chwaer a brawd, Plu, Elan, Marged a Gwilym Rhys a phrif ganwr Colorama, Carwyn Ellis.
Union ddyddiad cyhoeddi’r albwm fydd 7 Hydref eleni, yn dilyn cyhoeddi eu sengl ‘Danybanc’ yn ddigidol ar 9 Mai.
I gyd-fynd â chyhoeddi’r albwm, bydd y prosiect yn mynd ar daith un wythnos, ac ym Manceinion ar y 6ed o Hydref, Galeri Caernarfon ar y 7fed ac Eglwys Sant Ioan, Caerdydd ar yr 8fed.
Yr albwm
‘Gwreiddiau’ yw prif ysbrydoliaeth yr albwm – sef yr “ymdeimlad o le, teulu a chartref,” gyda llawer o’r caneuon wedi’u seilio ar ardal Sir Gaerfyrddin, sy’n “agos iawn” at galon Carwyn Ellis.
Mae cerddorion eraill fel Georgia Ruth a Patrick Rimes ar yr albwm, sydd yn ôl yr artistiaid yn “ychwanegu naws mwy cerddorfaol i’r caneuon”.
“Rydym i gyd mor falch o’r albwm – mae wir yn gywaith perffaith o gerddoriaeth Plu a’n un innau gyda llawer o bwyslais ar harmonïau lleisiol ac offeryniaeth wahanol,” meddai Carwyn Ellis.
Cafodd Bendith ei recordio yn stiwdios Acapela, Drwm a Masonic Lodge a’i gyd-gynhyrchu gan Mason Neely.
Bydd yr albym ar gael o’r 7fed o Hydref ymlaen ar CD mewn siopau ac yn ddigidol ar iTunes, Spotify ac Amazon.