Mae Yws Gwynedd ar ei ffordd i Dudweiliog.
Mae Gŵyl Taran Tudweiliog ym Mhen Llŷn yn taro’n ôl y penwythnos hwn ar ôl dwy flynedd o seibiant, gyda bron i 600 o docynnau wedi eu gwerthu.

Bydd Yws Gwynedd, Candelas a John ac Alun yn perfformio ar lwyfan yng nghae sioe pentref Tudweiliog nos yfory.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Gwenan Griffith wrth golwg360 fod y tocynnau “wedi gwerthu mwy nag erioed o’r blaen, gyda dim ond 30 tocyn ar ôl allan o 600.

“Mae hynny yn rhannol oherwydd y lein-yp gryf eleni mae’n siŵr. Mae Yws Gwynedd yn boblogaidd iawn ac mae Candelas yn dod atom ar ôl eu cyngerdd anhygoel ym Maes B a’r Pafiliwn yn y Brifwyl.”

Fe fydd y cewri canu gwlad lleol, John ac Alun yn perfformio hefyd, wrth iddyn nhw hyrwyddo’u halbym newydd Hir a Hwyr.

Wrth edrych ymlaen at Taran Tudweiliog, fe ddywedodd John Jones o John ac Alun: “Rydan ni’n disgwyl llwyth go-lew yno eleni, achos mae Yws Gwynedd yn cloi.

“A Candelas – mae’r grwpiau yna yn boblogaidd. Felly mae hi’n fraint i ni fod yn hen stejars yn eu canol nhw ar y noson, yn gwneud ein darn ni. Rhyw boethi’r llwyfan iddyn nhw yr ydan ni’r noson honno.”

“Mae o’n home ground i ni, felly fydda i’n cael edrych ymlaen at ymlacio a chael ryw bedwar, pum peint o lager ar ôl i ni wneud ein sbot.”

Mae Gwenan Griffith yn argymell i bobl brynu tocyn o flaen llaw: “Rydym yn gofyn i bobl geisio prynu tocynnau cyn ‘fory rhag ofn na fydd tocynnau ar ôl ar y noson”.