Mae dyn o Lanelli wedi’i gyhuddo o droseddau cyfrifiadurol rhyngwladol.

Yn gynharach heddiw, fe gafodd Daniel Mark Kelley ei gyhuddo yng ngorsaf heddlu Belgravia, Llundain, o nifer o droseddau a arweiniodd at droseddau eraill a gyflawnwyd yn honedig ganddo ar-lein.

Mae wedi’i gyhuddo o ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol i ymyrryd â gwaith gweinyddu arholiadau Coleg Sir Gâr, yn ogystal â cheisio dwyn arian trwy flacmel yn sgil gwybodaeth a ddaeth i’w ran trwy negeseuon ffôn ac ebost.

Yr uned ymchwilio i droseddau seibr, TARIAN, oedd yn gyfrifol am ddwyn y dystiolaeth yn erbyn y dyn 19 oed o Sir Gaerfyrddin.

Mae Daniel Mark Kelley wedi’i ryddhau ar fechnïaeth nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar Fedi 12.

Y cyhuddiadau

Ymyrryd â gwasanaeth, dan Adran 3 o’r Ddeddf Camddefnydd Cyfrifiadur – y cyhuddiad ydi fod hyn wedi cael effaith negyddol ar fusnes Coleg Sir Gâr, yn benodol ym maes derbyn gwaith cwrs a gweinyddu arholiadau.

Dau achos o flacmêl, dan Adran 21 y Ddeddf Ladrata 1968 – mae wedi’i gyhuddo o flacmelio cyflogai o Awstralia ar bedwar achlysur; mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio blacmelio cyflogai o Ganada gyda gwybodaeth am alwadau ffôn a negeseuon ebost.

Londro arian dan Adran 327-329 o’r Ddeddf Ymelwa o Droseddu