Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i fachgen 14 oed sydd ar goll o ardal Tredegar.
Does neb wedi gweld James Weaver ers dydd Llun, Awst 8.
Bryd hynny, roedd yn gwisgo siwmper lwyd a gwyn, a throwsus tracwisg llwyd. Mae’n fachgen main o gorffolaeth.