Mae adroddiadau o dân mawr mewn safle ailgylchu yn Cross Keys y bore yma.
Cafodd criwiau tân o Rhisga ac Abercarn eu galw i Ystâd Ddiwydiannol Drenewydd am 6:54 y bore ma, ynghyd â diffoddwyr tân o Duffryn a Aberbargoed.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod 21 o alwadau brys wedi cael eu gwneud am y tân ble mae nifer fawr o bren a phlastig yn llosgi.
Mae trigolion Cross Keys yn cael eu cynghori i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd y mwg du sy’n codi o Safle Ailgylchu FS Dealing.