Mae dyn arall wedi’i arestio gan Heddlu De Cymru ar amheuaeth o fod â rhan mewn cynllwyn i drefnu canlyniad gêm bêl-droed rhwng Port Talbot a’r Rhyl yn gynharach eleni.

Mae’r dyn 24 oed o Abertawe yn y ddalfa.

Ben bore heddiw, fe dorrodd y stori fod deg o bobol – saith dyn a thair dynes – wedi’u harestio ar amheuaeth o fod â rhan yn yr un cynllwyn.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiadau o gwmpas y gêm rhwng y ddau glwb ar Ebrill 9 eleni, a hynny wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Comisiwn Gamblo gyflwyno gwybodaeth i’r heddlu.