Jazz Richards pan oedd yn chwarae i Abertawe
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi atgoffa’u hamddiffynnwr newydd, Jazz Richards o’i gyfrifoldeb i’r clwb yn dilyn honiadau ei fod e wedi gwrthod “gwneud yr Ayatollah” – sef dathliad enwog y clwb.

Roedd y cefnogwyr wedi bod yn annog Richards – oedd yn arfer chwarae i Abertawe – i gymryd rhan yn y dathliad yn ystod eu gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth yn erbyn Birmingham ddydd Sadwrn.

Ond mae’n ymddangos ei fod e wedi gwrthod, a bod hynny wedi digio rhai o gefnogwyr Caerdydd.

Yn ddiweddarach, cyhoeddodd y clwb ddeunydd fideo oedd yn dangos bod Richards wedi gwneud y dathliad yn y pen draw, a hynny ar ddechrau’r ail hanner.

Ond dywedodd rheolwr Caerdydd, Paul Trollope ei fod e wedi siarad â Richards am y sefyllfa.

“Rwy wedi siarad â Jazz ac mae e’n ymwybodol o draddodiadau’r clwb, mae e’n gwybod beth yw’r gofynion wrth fynd ymlaen.”

Ychwanegodd Trollope y byddai Richards yn dysgu o’r helynt a bod y clwb am “ganolbwyntio ar y gêm” o hyn ymlaen.