Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn galwad i westy yng Nghasnewydd.
Mae ymladdwyr tân o Malpas, Maendy, Dyffryn, Cil-y-coed a Chwmbrân yn ymateb er mwyn ceisio diffodd y fflamau yn y New Inn Hotel ar Ffordd Cas-gwent yn y ddinas.
Nid oes, ar hyn o bryd, adroddiadau fod neb wedi’i anafu, ond mae’r criwiau yn chwilio’r adeilad.