Mae nifer y babanod sy’n marw yn y crud yng Nghymru a Lloegr ar ei isaf ers i gofnodion ddechrau.

Yn 2004, cofnodwyd 207 o farwolaethau sydyn ymhlith babanod, ond erbyn 2014, sef blwyddyn y data mwya’ diweddar, roedd y ffigwr wedi gostwng i 128 yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen The Lullaby Trust, Francine Bates, fod y ffigurau i’w croesawu ond bod “tystiolaeth yn dangos y gallai bywydau mwy o fabanod gael eu hachub” os byddai teuluoedd yn cael “cyngor cysgu gwell”.

“Mae’n bwysig ein bod yn cydweithio i sicrhau bod negeseuon am gysgu’n fwy diogel yn cyrraedd pob teulu, yn enwedig rhieni ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd â chyfraddau uwch o farwolaethau crud,” meddai.

Ystadegau

Yn gyffredinol, bu 212 o farwolaethau babanod heb eu hegluro yng Nghymru a Lloegr yn 2014, o ystyried marwolaethau sydyn ac achosion oedd heb eu cadarnhau.

Roedd tri ymhob pum marwolaeth wedi cael eu cofnodi’n farwolaethau crud, gyda’r 40% arall yn achosion oedd heb eu cadarnhau.

Roedd ychydig dros hanner, 55%, o holl farwolaethau babanod heb eu hegluro yn fechgyn yn ystod 2014.

Rhesymau am y gostyngiad

“Roedd nifer y marwolaethau babanod heb eu hegluro yn 2014 ar ei hisaf ar gofnod, yn sgil gostyngiad ym marwolaethau sydyn ymhlith babanod,” meddai Rosie Amery o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Gall nifer o ffactorau fod yn gyfrifol am y cwymp hwn, gan gynnwys tymereddau mwy cynnes nag arfer drwy gydol y flwyddyn, llai o fenywod yn smygu wrth roi genedigaeth a mwy o ymwybyddiaeth am arferion cysgu mwy diogel.”