Mae'r Cymro'n wynebu ail brawf ym mis Hydref
Mae Ched Evans wedi cael ei ganmol ar ôl sgorio yn ei gêm bêl-droed gyntaf ers pedair blynedd.
Cafodd Evans ei arwyddo gan Chesterfield ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl i’w ddedfryd am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl gael ei diddymu ym mis Ebrill.
Bydd Evans yn wynebu ail brawf ym mis Hydref, ac mae’n gwadu’r cyhuddiad.
Ond am y tro, mae cyn-ymosodwr Cymru’n awyddus i ail-afael yn ei yrfa bêl-droed ac fe sgoriodd gyda chic rydd yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd ddydd Sadwrn.
Roedd ei gôl ar ôl 76 munud yn ddigon i sicrhau pwynt i’w glwb yn erbyn Rhydychen.
Er bod rheolwr Chesterfield, Danny Wilson yn gyndyn o drafod arwyddocâd ymddangosiad cyntaf Evans ers pedair blynedd, roedd yn barod i ganmol ei berfformiad.
Dywedodd Wilson: “Roedd pawb yn nerfus heddiw, ro’n i’n nerfus.
“Cafodd Ched ddau gyfle da cyn ei gôl, roedd e braidd yn rhydlyd. Mae’n bosib y byddai wedi’u claddu nhw hanner ffordd drwy’r tymor ond mae e wastad yn ei gwneud hi.
“Ro’n i’n dweud wrth [hyfforddwr y tîm cyntaf] Chris Morgan fod rhaid i ni ei gadw fe oherwydd y byddai’n sgorio.
“Dyw e ddim wedi chwarae llawer o funudau a weithiau ry’ch chi’n credu ei bod hi’n iawn iddo orffwys ond ry’n ni’n gwybod y bydd e’n sgorio os caiff e gyfle. Dyna beth y’ch chi eisiau, y bygythiad hwnnw.”