Mae’r bocsiwr pwysau ysgafn o Gymru, Joe Cordina wedi ennill ei ornest gyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.
Roedd Cordina, sy’n bencampwr Ewrop, yn drech na Charly Suarez o’r Ffilipinas, ond roedd barn y beirniaid wedi’i hollti wrth i’r Cymro ennill yr ornest o 2-1.
Daeth diffyg ystwythder Cordina i’r amlwg yn y rownd gyntaf, ond fe lwyddodd i wrthsefyll ymosodiadau gan Suarez.
Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Cordina ei fod yn hyderus o’r dechrau y byddai’n ennill yr ornest.
“Mae gen i hyder bob amser ynof fi fy hun gan mai fi yw pencampwr Ewrop.
“Ro’n i bob amser yn credu mai fi fyddai’n ennill yr ornest hon, a’r un nesaf, a mynd ymlaen i wthio am fedal aur.
“Pan wnes i ymlacio, daeth popeth ynghyd.
“Roedd yr ail rownd yn un sigledig ond fe wnes i wneud iddo fe fethu eitha tipyn yn y rownd olaf a do’n i ddim yn poeni am y canlyniad.”