Mae rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Paul Trollope wedi dweud ei fod e wedi tynnu ar lwyddiant Cymru yn Ewro 2016 wrth iddo arwain y clwb am y tro cyntaf- i sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr.
Cafodd Cymru gryn glod am y ffordd wnaethon nhw ymosod ac amddiffyn ar eu ffordd i’r rownd gyn-derfynol, cyn colli yn erbyn Portiwgal, aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth yn y pen draw.
Defnyddiodd Trollope bump amddiffynnwr – yr un drefn â Chymru – wrth iddyn nhw deithio i St. Andrew’s i herio Birmingham ddydd Sadwrn.
Dywedodd Trollope: “Mae ’na ddylanwad ar ôl yr Ewros. Yn amlwg, fe gafodd ei ddefnyddio gan sawl tîm, fel y tîm wnes i weithio â fe.
“Mae lot o dimau wedi defnyddio’r drefn hon ac wedi symud i fyny allan o’r adran hon.
“Gyda’r chwaraewyr sydd ar gael i fi ar hyn o bryd, dyna’r ffordd ymlaen.”
Ond mae Trollope yn mynnu nad oedd y dacteg yn rhy amddiffynnol, ac fe gafodd Caerdydd sawl cyfle i ennill y gêm.
Daeth y cyfle gorau pan darodd Anthony Pilkington y trawst yn yr ail hanner.
Ychwanegodd Trollope: “Fe ddaethon ni gyda’r bwriad positif o ennill y gêm ond roedden ni’n rhwystredig na wnaethon ni ennill.”
Cafodd Birmingham sawl cyfle hwyr, ond fe gawson nhw eu hatal gan y golwr David Marshall.