Mae Asiantaeth Gwrth-gyffuriau Kenya wedi addo cynnal ymchwiliad i sylwadau gan rheolwr tîm athletau Kenya y gallai rybuddio pryd fyddai profion cyffuriau’n cael eu cynnal, a hynny’n gyfnewid am arian.
Cafodd Michael Rotich ei ddal gan bapurau newydd yr ARD yn yr Almaen a’r Sunday Times yn cynnig gwybodaeth i dîm o newyddiadurwyr oedd yn esgus bod yn athletwyr.
Cafodd y cynnig ei ffilmio yn Rift Valley ddechrau’r flwyddyn ac mae wedi dod i’r amlwg ychydig ddiwrnodau ar ôl i Rotich gymryd rhan yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.
Mae AthleticsKenya wedi tynnu Rotich yn ôl o’r Gemau ac wedi addo cynnal ymchwiliad.
Daw’r honiadau diweddaraf ar ôl i athletwyr Rwsia gael eu gwahardd o’r gemau am fethu profion cyffuriau ac ar ôl i awdurdodau Brasil roi’r gorau i gynnal profion cyn y Gemau.
Roedd yr awdurdodau eisoes wedi bod yn rhybuddio Kenya fod rhaid iddyn nhw wneud mwy i fynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ymhlith eu hathletwyr.