Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn, wedi i ddynes gael ei chanfod â llosgiadau difrifol yn Y Barri.
Mae dyn 63 oed yn y ddalfa ym Mhenarth, wedi iddo gael ei ddwyn i mewn ar gyhuddiad yn ymwneud ag ymosodiad difrifol yn Glanmore Crescent tua 9.15yh nos Iau, Awst 4.
Fe gafodd gwraig 54 oed ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, yn diodde’ o losgiadau. Mae hi’n dal yno, mewn cyflwr difrifol.