Haf Weighton
Mae artist o Benarth yn awyddus i greu darn o gelf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon yn seiliedig ar ardal Y Fenni.

Ac mae Haf Weighton yn galw ar y cyhoedd i’w chynorthwyo drwy gyfrannu pwythau neu ddarnau o ddefnydd eu hunain at y cyfanwaith.

Bydd yn cynnal y gweithdy ym mhabell Maes D yfory, wrth i’r artist bwysleisio ei hawydd i sgwrsio am gelf yn y Gymraeg.

“Mae diddordeb mawr gen i ddefnyddio sgiliau traddodiadol o wnïo fel brodwaith, i annog pobl i gyfathrebu â’i gilydd ac i ymlacio mewn awyrgylch hollol Gymreig,” meddai Haf Weighton.

‘Cyfle gwerthfawr’

Esboniodd yr artist ei bod wedi teithio i bob cwr o’r byd gan fyw mewn mwy na 30 o gartrefi ar hyd ei bywyd – ac yn cydnabod felly’r her o gadw’r Gymraeg.

“Fel rhywun sydd wedi byw ym mhedwar ban y byd, gallaf ddeall faint o her yw hi i ddysgwyr Cymraeg fagu hyder i siarad yn y Gymraeg ac i ehangu eu geirfa mewn sefyllfa gyhoeddus,” meddai.

Ar ôl cwblhau’r darn, bydd y cyfanwaith yn seiliedig ar y Fenni yn cael ei arddangos yn Oriel Cric, Crughywel ar Awst 13.

Mae Haf Weighton hefyd yn un o’r artistiaid sy’n arddangos ym mhabell Arcipelago gyferbyn â’r Lle Celf gyda’r artist Anthony Evans.

“Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i mi fel arlunydd a hefyd fel Cymraes,” ychwanegodd am y profiad o ddangos ei gwaith yn y Brifwyl.