Dei Tomos yn derbyn cyfarchion Ty Gwerin neithiwr
Mae’r newyddiadurwr a’r darlledwr, Dei Tomos, wedi dechrau dathlu ei ben-blwydd yn 70 wythnos yn gynnar, ers i gynulleidfa’r Stomp Cerdd Dant yn Y Fenni uno i ganu ‘Pen-blwydd hapus’ iddo neithiwr.

Fe ddaeth y cyfarchiad i gyfeiliant telyn, wrth gwrs, wedi i Dei Tomos ei hun annog pabell lawn Ty Gwerin i ganu i un o “hoelion wyth” y byd cerdd dant, Einir Wyn, yn 60 ddoe.

Ac wrth i rai ocheneidio wedi iddo gyhoeddi ei hoed, fe ddywedodd yntau y byddai ddeng mlynedd ar y blaen iddi ymhen wythnos… cyn i’r delyn byncio am yr ail dro, ac i’r gynulleidfa ddymuno ‘Pen-blwydd hapus’ eto.

“Does dim ots gen i pwy sy’n gwybod,” meddai Dei Tomos.