Bu gostyngiad o 9,000 yn nifer y bobol sy’n gwrando ar BBC Radio Cymru yn ystod ail chwarter 2016, o gymharu â’r chwarter cyntaf.
Fe gollodd BBC Radio Wales 47,000 o wrandawyr yn ystod yr un cyfnod hefyd, yn ôl ffigurau diweddaraf Rajar.
103,000 o wrandawyr oedd Radio Cymru yn llwyddo i gyrraedd bob wythnos rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, gyda 333,000 yn gwrando ar Radio Wales bob wythnos.
Mae’n debyg mai dyma’r ffigurau wythnosol isaf y ddwy orsaf ers troad y ganrif hon.
‘Yr orsaf yn parhau i fod yn ffefryn’
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae ffigyrau RAJAR yn ddefnyddiol fel cipolwg o wrando byw.
“Er bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos gostyngiad bach o ran gwrandawyr Radio Cymru dros y chwarter diwethaf, mae’n galonogol fod yr orsaf yn parhau i fod yn ffefryn, ymhlith y siaradwyr Cymraeg rhugl yng Nghymru.
“Mae’r gostyngiad yn ffigyrau cyrhaeddiad Radio Wales yn siomedig – ond mae’n galonogol fod gwrandawyr Radio Wales yn gwrando am gyfnodau hirach nag oeddynt o’r blaen.”
Gorsafoedd eraill
Bu cynnydd wythnosol o 19,000 yn nifer y bobol oedd yn gwrando ar Capital FM yn ne Cymru, gyda’r orsaf yn cyrraedd 189,000 o wrandawyr.
Roedd 171,000 o wrandawyr yn gwrando’n wythnosol ar yr orsaf yng ngogledd Cymru hefyd, sy’n gynnydd o 16,000.
Fe gollodd Heart 15,000 o wrandawyr yn y gogledd, gan gyrraedd cynulleidfa wythnosol o 124,000, ond fe lwyddodd i ddenu 1,000 yn fwy yn y de, gyda chynulleidfa o 460,000.
Fe wnaeth cynulleidfaoedd wythnosol Radio Sir Gâr, Scarlet FM a gorsaf The Wave yn Abertawe ostwng, tra bod Smooth Radio yn y de, Sain Abertawe, Bridge FM, Nation Radio a Radio Pembrokeshire wedi denu mwy o wrandawyr.