Hannah Roberts
Merch o Frynmawr ym Mlaenau Gwent sydd wedi cipio gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dywed y beirniaid – Angharad Mair, Sandra De Pol ac Elwyn Hughes – fod Hannah Roberts yn “llwyr deilyngu’r wobr am ei chyfraniad i’w chymuned.”

Mae Hannah Roberts yn gweithio i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, a dywedodd ei bod am geisio “normaleiddio’r iaith yn yr ardal, a dangos ein bod ni yma.”

Dod at yr iaith ‘drwy ddamwain’

Esboniodd wrth golwg360 nad oes neb o’i theulu’n siarad Cymraeg a’i bod wedi dod at yr iaith “drwy ddamwain.”

Bu’n fyfyrwraig yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth cyn newid i astudio’r Gymraeg oherwydd “ei chariad at yr iaith a’r profiadau gwych ges i ym Mhantycelyn,” meddai.

Bu Hannah Roberts wrth wraidd sefydlu cymdeithas i ddysgwyr yn y Brifysgol, ac mae am barhau i hybu’r iaith fel Swyddog Maes ymysg pobl ifanc ei hardal.

Pum merch

 

Yn ôl y beirniaid, roedd hon yn gystadleuaeth “o safon uchel iawn” gyda phob un yn haeddu’r anrhydedd.

Pum merch oedd ar y rhestr fer eleni, gan gynnwys Rwth Evans o Gaerdydd, Rachel Jones o Lanfair-ym-muallt, Naomi O’Brien o Beddllwynog a Sarah Reynolds o Gaerfyrddin.