Llun: PA
Fe fydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar faes y Brifwyl yn y Fenni heddiw i drafod dyfodol addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion.

Bydd Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno’r syniad o gontinwwm addysg Gymraeg ar gyfer pob disgybl, gan agor y llawr wedyn i drafod yr ystyriaethau a’r heriau.

Mae’r continwwm addysg Gymraeg yn golygu llunio un rhaglen astudio ar gyfer pob disgybl yn hytrach na gweinyddu dau gwrs mewn ysgolion, sef Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith.

Mae’r syniad yn seiliedig ar adroddiad a luniwyd gan yr Athro Sioned Davies, pennaeth Ysgol y Gymraeg Caerdydd, dair blynedd yn ôl oedd yn argymell gwaredu ag addysgu Cymraeg Ail Iaith.

Cefndir

Mae’r syniad wedi’i groesawu gan Brif Weinidog Cymru fis Rhagfyr y llynedd, pan ddywedodd Carwyn Jones fod Cymraeg Ail Iaith “yn creu gwahaniaeth artiffisial”.

Ychwanegodd y byddai am weld continwwm dysgu Cymraeg yn cael ei ddatblygu’n rhan o’r cwricwlwm erbyn 2018.

Er hyn, bu cam yn ôl yng nghynnydd y cynllun yn ddiweddar, pan ddaeth hi i’r amlwg fod y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio’r system gymwysterau addysg yng Nghymru am barhau â’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith.

Yn sgil hyn, bu ymgyrchwyr iaith yn protestio yn swyddfeydd Cymwysterau Cymru ar ddiwedd mis Gorffennaf ynglŷn â’u penderfyniad.

Y drafodaeth heddiw

Ac ar faes yr Eisteddfod heddiw, fe fydd cyfle i banel o arbenigwyr addysg ddweud eu dweud am y continwwm.

Yr Athro Sioned Davies fydd yn cadeirio’r panel sy’n cynnwys Emyr George ar ran Cymwysterau Cymru, Hywel Jones ar ran Estyn, Lona Evans Pennaeth y Gymraeg Ysgol Uwchradd Caerdydd a Gareth Pierce Prif Weithredwr CBAC.

Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal am 1 y prynhawn ym Mhabell Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod.