Dyluniad diweddaraf Yr Egin, canolfan S4C yng Nghaerfyrddin
Wrth ddatgelu’r dyluniadau diweddaraf o Ganolfan S4C Yr Egin ar faes Eisteddfod Y Fenni heddiw, fe ddywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Gwilym Dyfri Jones, y bydd y datblygiad yn dod â £11m i’r economi leol yng Nghaerfyrddin bob blwyddyn.

Bu digwyddiad arbennig yn y Brifwyl i roi’r diweddaraf am gynllun ar y cyd rhwng Prifysgol y Drindod Dewi Sant a S4C, i symud canolfan y sianel genedlaethol o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Bydd y Ganolfan, a fydd yn agor ym mis Mawrth 2018, yn gweithredu fel canolfan greadigol yng Nghaerfyrddin hefyd, a fydd yn “hwb” i’r Gymraeg yn yr ardal, yn ôl y rhai sydd y tu ôl i’r prosiect.

“Ar ôl misoedd lawer o waith caled, mae cynllun Canolfan S4C yr Egin yn dod yn fyw o flaen ein llygaid ac mae’n hynod o gyffrous i weld y gwaith yn symud ymlaen yn y fath fodd,” meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.

“Wrth agor pencadlys yn y gorllewin yn 2018, cadw presenoldeb cryf yng Nghaerdydd a swyddfa yng Nghaernarfon, fe fydd S4C yng nghanol y gynulleidfa ar draws Cymru ac yn meithrin cysylltiadau creadigol agos newydd fydd yn cynnig buddiannau i’r gwasanaeth.”

Ymgynghori â staff S4C
Mwy o ddyluniadau'r Egin

Bydd 75 o swyddi yn cael eu hadleoli, a 55 o’r rheini yn rhai S4C, gyda’r cwmni yn ymgynghori gyda staff ynglŷn â symud – neu beidio â symud – o Gaerdydd.

Ers mis, mae gweithwyr wedi cael gwybod am becynnau sydd ar gael ar gyfer mudo i Gaerfyrddin, neu delerau diswyddo ar gyfer rhai sy’n anfodlon i fynd.

Mae yna bryder wedi bod y gallai nifer fawr o staff fod yn anfodlon i adael Caerdydd, yn debyg i’r problemau a gafodd y BBC wrth symud o Lundain i Fanceinion.

 Dewis o becynnau

Mae’r pecynnau’n cynnwys cynigion i weithwyr allweddol aros ymlaen am ychydig tra bydd pobol newydd yn cael eu meithrin ar gyfer y swyddi yng Nghaerfyrddin.

Mae yna hefyd ddewis o becynnau i helpu pobol i symud naill ai’n barhaol neu dros dro.

Mae’r sianel wedi dechrau ymgynghori’n ffurfiol gydag undeb y gweithwyr teledu, BECTU, ynglŷn â thelerau.

 Cadw at yr amserlen

Fe fydd y symud i adeilad yr Egin yng Nghaerfyrddin yn digwydd ym mis Mawrth 2018 ac, yn ôl yr uwch swyddog sy’n gyfrifol am y prosiect, Garffild Lloyd Lewis, mae popeth hyd yn hyn yn cadw at yr amserlen.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, fe fydd y sianel yn cyhoeddi enwau rhai o’r prif gontractwyr, gyda disgwyl y bydd amryw o’r rheiny’n gwmnïau Cymreig.