Plant Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn dathlu Calan Awst, Calan Oen Llun: HCC
Mae Hybu Cig Cymru wedi penderfynu adfywio hen draddodiad Celtaidd wrth ddechrau ymgyrch farchnata newydd, Calan Awst, Calan Oen, yr wythnos hon.

Esboniodd Prys Morgan, Pennaeth Gweithrediadau Hybu Cig Cymru fod dydd Llun, Awst 1 yn nodi diwrnod cyntaf y cynhaeaf, a bod hen draddodiad ar draws gwledydd Ewrop i wledda ar y diwrnod hwn.

“Fe’i hadnabyddir fel Calan Awst, Lammas neu Lughnasadh,” meddai gan esbonio eu bod am ddatblygu heddiw yn ddiwrnod i ddathlu cig oen Cymru.

“Mae ymgyrch newydd i farchnata yn hanfodol yn sgil ansicrwydd economaidd a gwleidyddol,” esboniodd Prys Morgan.

‘Bwyd lleol’

Yn y cyfamser, mae ymchwil gan Hybu Cig Cymru yn dangos fod teuluoedd yn awyddus iawn i fwyta bwyd o ffynonellau lleol.

Cafodd arolwg o 2,000 o bobl ei gomisiynu, i gyd-fynd gyda’r dathliad Calan Awst, Calan Oen, a ddangosodd fod pobl yn dewis a dethol wrth siopa am fwyd. Mae wyth o bob deg yn darllen labeli er mwyn gweld o ble mae eu bwyd yn dod – a thua hanner ohonyn nhw yn dweud nad oes digon o fwyd lleol ar gael.

Er bod cig oen Cymru ar gael drwy’r flwyddyn, yr amser gorau o’r flwyddyn i’w brynu yw yn yr haf a’r hydref.

Arddangosfa a ryseitiau

Esboniodd Prys Morgan  fod ‘Calan Awst, Calan Oen’ yn ddechrau ymgyrch farchnata newydd ganddynt a fydd yn para drwy weddill yr haf a’r hydref.

Dywedodd y byddan nhw’n cynnal arddangosfeydd mewn archfarchnadoedd yn ystod y mis ynghyd â chyhoeddi llyfrynnau’n llawn ryseitiau er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl o’r cyflenwad digonol o gig oen Cymru sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Y llynedd, gweithiodd y diwydiant cyfan efo’i gilydd i gynyddu ymwybyddiaeth o Gig Oen Cymru PGI fel cynnyrch premiwm” meddai Prys Morgan.

“Mae’r ymateb unedig yma’n dal yn fyw yn y cof ar ddechrau ymgyrch farchnata newydd ar gyfer Cig Oen Cymru.”