Gwynn ap Gwilym (Llun: Yr Eglwys yng Nghymru)
Torrodd y newyddion heddiw, ar drydydd dydd prifwyl Y Fenni, am farwolaeth y Prifardd Gwynn ap Gwilym. Enillodd y gadair 30 mlynedd union yn ôl, yn Eisteddfod Abergwaun.
Fe’i ganwyd ym Mangor yn 1950, ond fe’i magwyd o, ei frawd, y Parchedig Ifor ap Gwilym, a’u chwaer, y ddiweddar Lona Gwilym, ym Machynlleth. Roedd wedi bod yn ymladd canser ers rhai blynyddoedd.
Fe dreuliodd Gwynn ap Gwilym flynyddoedd yn offeiriad yn Sir Drefaldwyn, yn ardal Darowen, Glantwymyn, Llanymawddwy, Mallwyd a Llanbrynmair, cyn symud i ardal Pen-y-bont ar Ogwr a gwneud gwaith mawr ar gyhoeddiadau Cymraeg ac ar bwyllgorau eciwmenaidd yr Eglwys yng Nghymru.
Roedd hefyd yn ysgolhaig Beiblaidd, ac fe fu’n ddarlithydd Diwinyddiaeth yn Aberystwyth.
Enillodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru yn 1983 am ei gyfrol o farddoniaeth, Grassholm, ac am awdl yn dweud stori marwolaeth raddol a chreulon ei dad o glefyd motor niwron yr enillodd Gadair y Genedlaethol, dan y testun, ‘Y Cwmwl’ yn 1986. Cyhoeddodd un nofel, Dydd Oedd A Diwedd Iddo yn 2002.
Taflodd ei het i’r cylch i fod yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd, a hynny mewn etholiad yn erbyn Selwyn Iolen a Jim Parc Nest yn 2004. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003.