(llun o wefan yr heddlu)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad angheuol yn Sir y Fflint yn ystod oriau mân y bore.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua chwarter i un ar ôl i ddau gerddwr, dyn a dynes, eu taro i lawr gan fan Vauxhall ar y B5112 yng Nghaerwys gerllaw cyffordd 34 yr A55.
Roedd y dyn eisoes wedi marw, ac aed â’r ddynes i Ysbyty Glan Clwyd ac wedyn i ysbyty yn Stoke yn dioddef o anafiadau difrifol.
Aed â gyrrwr y fan i Ysbyty Glan Clwyd yn dioddef yr hyn a gredir sy’n fân anafiadau.
“Dw i’n apelio ar i unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio yn yr ardal tuag adeg y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi gweld dau o bobl yn cerdded ar hyd y B5112 i gysylltu â ni ar 101, gan nodi cyfeirnod U112249,” meddai’r Sarjant Tony Gatley o Heddlu Gogledd Cymru.