Efa Gruffudd Jones
Bydd trefn newydd o ddysgu Cymraeg i oedolion yn cael ei lansio ar faes y Brifwyl yn y Fenni y prynhawn yma.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw’r corff newydd sy’n gyfrifol am y gwaith o yfory ymlaen, ac fe fydd digwyddiad anffurfiol ym Maes ‘D’ am 2.00 o’r gloch.

Bydd y drefn newydd yn adeiladu ar y gwaith wnaed hyd yma gan y chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Dyma’r tro cyntaf i gorff cynllunio cenedlaethol gydlynu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ac mae ein nod yn glir – denu dysgwyr newydd i’r Gymraeg a chynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda darparwyr a thiwtoriaid ymroddedig ledled Cymru wrth i ni fynd ati i gydlynu’r ddarpariaeth, a bod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl wybodaeth am ddysgu’r Gymraeg.”

Cyrsiau ledled Cymru

Bydd 11 o sefydliadau yn gweithredu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu cyrsiau mewn gwahanol rannau o Gymru:

  • Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai: Môn, Gwynedd a Chonwy
  • Coleg Cambria a chwmni Popeth Cymraeg: Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam
  • Prifysgol Aberystwyth: Ceredigion, Powys a chyrsiau dwys a chyfunol a chyrsiau ar gyfer Lefelau Uwch a Hyfedredd yn Sir Gaerfyrddin
  • Cyngor Sir Gâr:  Cyrsiau wythnosol ar gyfer Lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, gan gynnwys cyrsiau Cymraeg i’r Teulu, yn Sir Gaerfyrddin
  • Cyngor Sir Benfro: Sir Benfro
  • Prifysgol Abertawe: Abertawe a Chastell Nedd a Phort Talbot
  • Cyngor Bro Morgannwg: Bro Morgannwg
  • Prifysgol Caerdydd: Dinas Caerdydd
  • Prifysgol De Cymru: Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Coleg Gwent: Casnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a Sir Fynwy
  • Nant Gwrtheyrn: cyrsiau preswyl ar gyfer pob Lefel yng nghanolfan iaith a threftadaeth y Nant ym Mhen Llŷn.