Gallai'r defnydd o fanciau bwyd gynyddu dros wyliau'r haf, yn ôl Cyngor Sir Gâr
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi lansio apêl frys am roddion i’w banciau bwyd yn dilyn pryderon y gallai llawer o blant yr ardal fynd heb fwyd dros wyliau’r haf.
Mae pryderon y bydd y galw’n cynyddu am y banciau bwyd wrth i rieni ei chael yn anodd rhoi bwyd ar y bwrdd.
Yn ystod y tymor ysgol, mae plant yn cael prydau ysgol am ddim os oes eu hangen arnyn nhw, ond fydd y cymorth hwnnw ddim ar gael dros y chwe wythnos nesaf yn ystod y gwyliau.
Mae’r Cyngor wedi apelio ar rieni hefyd i beidio â theimlo cywilydd wrth ddefnyddio banciau bwyd os bydd angen gwneud hynny.
Mae’r defnydd o fanciau bwyd ar ei lefel uchaf erioed, gyda Sir Gaerfyrddin yn ail yn unig i Gaerdydd o ran nifer y pecynnau bwyd sy’n cael eu dosbarthu yn yr ardal yn flynyddol.
Mae ymchwil yn dangos hefyd bod 25% o rieni wedi dewis peidio bwyta pryd o fwyd er mwyn bwydo eu plant, neu wedi dibynnu ar aelodau eraill y teulu neu ffrindiau am fwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Pwysau ar rieni
“Mae tlodi bwyd yn y Deyrnas Unedig yn cynyddu ac mae’n ergyd i deuluoedd, yn enwedig pan na fydd adnoddau fel prydau ysgol am ddim, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol ar gael,” meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Gâr, Pam Palmer.
“Mae dros chwarter o rieni sy’n dioddef o ryw fath o dlodi bwyd wedi dweud nad ydyn nhw’n gallu rhoi’r holl brydau y mae angen ar eu plant yn ystod gwyliau’r ysgol.
“Mae hyn yn golygu y gallai nifer fawr o blant fynd heb fwyd. Rydym yn gweithio gyda banciau bwyd i helpu i ddarparu bwyd ar frys iddyn nhw.”
Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Lenny, na ddylai rhieni deimlo cywilydd am ddefnyddio banc bwyd.
“Yn ogystal ag apelio ar y cyhoedd yn gyffredinol i roi’r hyn y gallan nhw i ganolfannau casglu’r banciau bwyd, dw i’n annog rhieni sydd mewn angen i gymryd mantais o’r cyfleuster hwn – er mwyn eu plant,” meddai.
“Ar adeg o lymder ariannol, dyw bod yn brin o arian ddim yn rhywbeth i deimlo cywilydd ohono.”
Canolfannau casglu
Mae’r Cyngor yn apelio ar bobol i ddarparu bwydydd i’r banciau bwyd drwy’r canolfannau casglu canlynol:
Excel Bowling Caerfyrddin – Banc Bwyd Tesco, Caerfyrddin
Banc Bwyd Llanelli – Y Galeri neu Dŷ Myrtle, Llanelli
Banc Bwyd Rhydaman – Banc Bwyd Tesco, Rhydaman
Canolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli
Mae’n bosib y bydd canolfan gasglu yn Llanybydder hefyd.