Corff Emma Louise Baum, 22, wedi'i ddarganfod yn ei chartref (Llun: Heddlu'r Gogledd)
Mae dyn 25 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 22 oed yn ei chartref ym Mhenygroes wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Ymddangosodd David Nicholas Davies o Glynnog Fawr gerbron ynadon yng Nghaernarfon fore Gwener, lle cadarnhaodd ei enw a’i gyfeiriad mewn gwrandawiad byr.
Cafwyd hyd i gorff Emma Louise Baum yn ei chartref ddydd Llun.
Cafodd Davies ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.