Yr atomfa bresennol yn Hinkley (Richard Baker CCA2.0)
Fe fydd penderfyniad allweddol yn cael ei wneud yr wythnos nesa o ran dyfodol ail atomfa yn Ynys Môn.
Ddydd Iau, mae disgwyl i’r cwmni Ffrengig EDF ddweud a fyddan nhw’n bwrw ymlaen gyda gorsaf niwclear Hinkley C yng Ngwlad yr Haf.
Os ydyn nhw’n tynnu’n ôl, fe fydd hynny’n codi mwy o amheuon fyth am y tebygrwydd o atmofa newydd yn Wylfa hefyd.
Undebau’n codi amheuon
Er fod penaethiaid EDF hyd yma wedi mynnu y bydd y datblygiad yn digwydd, mae undebau yn Ffrainc wedi codi amheuon.
Yn ystod yr wythnosau diwetha’ hefyd, mae dau adroddiad annibynnol – un gan aelodau seneddol ac un gan yr Archwilydd Cyffredinol Prydeinig – wedi codi cwestiynau am gostau adeiladu a chynnal yr atomfa.
Fe gyhoeddodd EDF y byddan nhw’n cynnal cyfarfod o’u cyfarwyddwyr 28 Gorffennaf.