Melinau gwynt (llun llyfrgell)
Mae gwrthwynebwyr wedi mynegi dicter a siom ar ôl i Lywodraeth Cymru roi sêl bendith ar gynllun dadleuol i godi 16 o felinau gwynt ar dir comin ger Abertawe.

Fe fydd datblygiad fferm wynt Mynydd y Gwair, sydd werth tua £52 miliwn, yn cael ei adeiladu ger pentre’ Felindre.

“Newyddion trist, difrifol,” meddai un o’r prif wrthwynebwyr, y Cynghorydd Ioan Richard. “Ffars wallgo!”

Gwrthwynebiad chwyrn

Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod yn sgil y cynlluniau, gydag ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro yn erbyn y fferm wynt ers bron chwarter canrif.

Maen nhw’n dadlau y byddai’n dinistrio harddwch naturiol yr ardal, tra bod y cwmni sy’n gyfrifol am y prosiect, RWE nPower, yn dweud y byddai o fudd amgylcheddol ac economaidd i’r gymuned.

Roedd RWE nPower wedi cyflwyno tri chais cynllunio i Lywodraeth Cymru, gyda’r ddau arall wedi eu gwrthod – y tro  yma, fe lwyddodd gydag amod i wella’r ffordd at y gwaith.

Llywodraeth yn penderfynu

Roedd y cynllun wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Dinas Abertawe yn 2013, ond yn dilyn adroddiad gan arolygwr cynllunio ym mis Mehefin 2015, fe benderfynodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, Rebecca Evans, fod rhaid i’r Llywodraeth ei ystyried.

Mae’r Ysgrifennydd dros Faterion yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, bellach wedi derbyn y cais yn dilyn argymhellion arolygydd annibynnol, a arweiniodd ymchwiliad cyhoeddus i’r achos.

Yn ôl RWE nPower, fe fydd gan y fferm wynt yn gallu cynhyrchu digon o drydan cynaliadwy, rhad, i’r hyn sy’n cyfateb i 24,700 o gartrefi, gan gyflogi hyd at 104 o swyddi adeg adeiladu’r fferm ac 19 swydd barhaol wedyn.

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Hydref 2016.