Stadiwm Liberty (Nigel Davies CCA2.0)
Mae cadarnad swyddogol wedi dod fod unig glwb Cymru yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi ei werthu i berchnogion Americanaidd.
Ac maen nhw wedi symud yn gyflym i geisio tawelu ofnau cefnogwyr Abertawe trwy bwysleisio traddodiad ac arddull chwarae’r clwb,
Mewn llythyr agored i’r cefnogwyr, mae’r ddau Americanwr Stephen Kaplan a Jason Levien sy’n arwain consortiwm o bobol fusnes o ochr arall yr Iwerydd, yn dweud mai’r berthynas rhwng y clwb a’r ffans oedd un o’r rhesymau tros ei brynu.
Maen nhw hefyd wedi pwysleisio y bydd rôl amlwg o hyd i Huw Jenkins, y Cadeirydd sydd wedi arwain Abertawe o waelodion cynghrair Lloegr i’r adran ucha’.
Cadarnhad
Yn hwyr neithiwr y daeth y cadarnhad fod y gwerthiant wedi digwydd, gyda’r Americanwyr yn buddsoddi tua £100 miliwn ac yn cymryd 60% o randdaliadau’r clwb.
Ond fe fydd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn cadw bron i chwarter y clwb hefyd ac mae’r perchnogion newydd wedi tanlinellu pwysigrwydd y berthynas gyda nhw.
“Fe wnaethon ni chwilio am glwb oedd â dull arbennig o chwarae ar y cae a fyddai’n arwain, yn ein barn ni, a ddaw â llwyddiant tymor hir.
“Roedden ni hefyd eisiau bod yn rhan o glwb oedd yn agos at galon ac enaid y cymuned … r’yn ni werth ein bodd gyda’r berthynas ddwys rhwng y cefnogwyr a’r tîm pêl-droed.”
Y flaenoriaeth – perfformio ar y cae
Roedd y llythyr yn pwysleisio y bydden nhw’n gweithio’n agos gyda’r cyn-berchnogion, dan arweiniad Huw Jenkins, a gydag Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.
Y flaenoriaeth, medden nhw, yw perfformio ar y cae, ond fe fyddan nhw hefyd yn trafod gyda’r cefnogwyr am ffyrdd o wella ac estyn Stadiwm Liberty.
Maen nhw hefyd wedi addo cadw prisiau tocynnau yr un peth.