Joe Allen (llun: CBDC)
Mae rheolwr Lerpwl Jurgen Klopp wedi dweud ei fod yn edmygu Joe Allen ond mae wedi gwrthod gwneud sylw am ddyfodol y chwaraewr canol cae gyda’r clwb.

Gwnaeth Jurgen Klopp ei sylw yng nghanol adroddiadau bod y clwb wedi derbyn cynnig o £13 miliwn gan Stoke am chwaraewr rhyngwladol Cymru.

Mae hynny’n golygu bod y penderfyniad yn sgwâr ar ysgwyddau Joe Allen, sydd ar flwyddyn olaf ei gytundeb yn Anfield, er ei bod hi’n hysbys ei fod yn awyddus i gael mwy o amser  ar y cae ar ôl treulio llawer o amser ar y fainc y tymor diwethaf.

Yn dilyn buddugoliaeth Lerpwl mewn gem gyfeillgar yn erbyn Huddersfield neithiwr, meddai Jurgen Klopp ei fod yn “hoff iawn” o Joe Allen a’i fod yn credu ei fod yn “chwaraewr pêl-droed gwych,”

Ond ychwanegodd y rheolwr nad oedd wedi siarad gyda Joe Allen ers canol mis Mai ac nad oedd yn barod i drafod dyfodol y chwaraewr yn gyhoeddus.