Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill gêm Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn.
Llwyddon nhw i drechu Swydd Derby o bedair wiced ar ddiwrnod ola’r ornest pedwar diwrnod ym Mae Colwyn ar ôl i’r ymwelwyr frwydro’n ôl.
Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio ar y diwrnod cyntaf, sgoriodd Morgannwg 518 yn eu batiad cyntaf, wrth i Aneurin Donald dorri un record ar ôl y llall ar ei ffordd i 234.
Cafodd y batiwr 19 oed o Abertawe gefnogaeth gan Craig Meschede (66 heb fod allan), wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 130, ac fe adeiladodd Donald a Will Bragg (60) bartneriaeth o 111 am y bedwaredd wiced. Sgoriodd yr Awstraliad Nick Selman 57 yn y batiad hefyd.
Batiad cyntaf digon siomedig gafodd Swydd Derby wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 177, a chael eu gorfodi i ganlyn ymlaen.
Roedd buddugoliaeth o fatiad a mwy yn edrych yn bosibilrwydd cryf tan i fatwyr Swydd Derby ddal eu tir a llwyddo i sicrhau bod rhaid i Forgannwg fatio eto.
Sgoriodd Chesney Hughes 122 ac roedd canred hefyd i’r capten Billy Godleman (106) wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 536 i gyd allan ar y diwrnod olaf, i osod nod o 196 i Forgannwg.
Roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion am gyfnod yn ystod y prynhawn olaf ar ôl bod yn 157-6, ond sicrhaodd y capten Jacques Rudolph ei fod yn arwain y tîm i fuddugoliaeth o bedair wiced gyda sgôr o 51 heb fod allan.
‘Y fuddugoliaeth orau’
Yn dilyn y fuddugoliaeth, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “Fe wnaethon ni brofi nifer o eiliadau nerfus wrth gwrso’r rhediadau, ond ro’n i’n meddwl ein bod ni’n haedu’r fuddugoliaeth fydd yn rhoi hyder i ni ennill rhagor yn ystod gweddill y tymor.
“Dywedodd Michael Hogan mai hon oedd y fuddugoliaeth orau roedd e wedi chwarae ynddi ers iddo fe ymuno â’r clwb, yn enwedig gan eu bod nhw wedi bod yn maesu am 214 o belawdau.
“Dangosodd y bois dipyn o chwant dros y pedwar diwrnod, a gallwn ni edrych ymlaen nawr at yr her anodd gan Wlad yr Haf yn y gêm T20 nos Wener.”