Cynrychiolodd Tom Allin dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC cyn cael gyrfa broffesiynol gyda Swydd Warwick
Mae crwner wedi dod i’r casgliad bod un o gyn-gricedwyr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, Tom Allin wedi cyflawni hunanladdiad.
Clywodd y cwest i farwolaeth y cricedwr 28 oed ei fod wedi dioddef anafiadau difrifol i’w goes mewn gwrthdrawiad car ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth ym mis Ionawr eleni.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod ger pont tros afon Torridge yn Nyfnaint ar Ionawr 4.
Gyrfa
Chwaraeodd Allin i dîm Prifysgol Fetropolitan Caerdydd tra ei fod yn fyfyriwr yno rhwng 2008 a 2010.
Er bod Allin wedi treulio chwe thymor yn Edgbaston, dim ond dwy gêm y chwaraeodd yng nghrys Swydd Warwick – unwaith yn y Bencampwriaeth ac unwaith mewn gornest undydd.
Gadawodd y sir yn 2013, ac ymuno â Dyfnaint lle mae ei dad, Tony – cyn-droellwr llaw chwith Morgannwg – yn chwarae.
Llythyron
Daeth yr heddlu o hyd i sawl llythyr yn ei gartref yn nodi ei fwriad i ddod â’i fywyd i ben.
Clywodd y cwest fod nifer o bobol wedi ceisio rhoi triniaeth iddo cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.
Dywedodd ei rieni Beverley a Tony – fu’n gricedwr ei hun yn cynrychioli Morgannwg – fod eu mab wedi cael “sawl mis anodd” cyn ei farwolaeth yn dilyn salwch difrifol ei frawd.
Ym mis Hydref, bu’n rhaid torri Tom Allin allan o gar yn dilyn gwrthdrawiad.
Dywedodd wrth nyrs ddiwedd y flwyddyn ei fod yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n feddyliol, ac fe gafodd ei gynghori i geisio triniaeth.
Yn ôl archwiliad post-mortem, doedd dim alcohol na chyffuriau yn ei gorff adeg ei farwolaeth.
Cafodd rheithfarn o hunanladdiad ei chofnodi.