Gareth Bale yn dathlu buddugoliaeth Cymru yn Ewro 2016 Llun: PA
Roedd tua 2 filiwn o bobol yng Nghymru wedi gwylio’r gêm bêl-droed fawr rhwng Cymru a Gwlad Belg, sef tua 70% o boblogaeth 4 oed a hŷn y wlad.
Mae’r ffigwr hwn yn uwch na’r un wreiddiol o 1.27 miliwn, yn seiliedig ar ymchwil newydd a gafodd ei gynnal 3-5 diwrnod ar ôl y gêm, yn hytrach na’r ffigurau gafwyd dros nos.
Dyma’r gynulleidfa deledu uchaf erioed yng Nghymru ar gyfer chwaraeon byw, gyda’r gêm wedi cael ei dangos ar y BBC.
O’r 2 filiwn, mae amcangyfrif bod tua 10% o holl oedolion Cymru, sef 250,000, wedi gwylio’r gêm mewn bar neu dafarn.
Mae’r ffigwr hefyd yn cynnwys gwylio ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau ar wasanaeth BBC iPlayer.
Roedd 2% arall yn gwylio yn y gwaith neu ar wyliau tramor a thua 75,000 o Gymry wedi mynd i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 rhywbryd yn ystod y bencampwriaeth.
Yn y gêm hanesyddol ar 1 Gorffennaf, fe wnaeth Cymru sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Ewro 2016 ar ôl curo Gwlad Belg o 3 i 1.
Ewro 2016 – “ffenomen teledu”
“Diolch i lwyddiant Cymru, mae’n amlwg bod Ewro 2016 wedi tyfu’n gyflym i fod yn ffenomen teledu enfawr yma,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.
“O setiau teledu mewn ystafelloedd byw i ffonau clyfar, ac o dafarndai a chlybiau i ‘ffanbarthau’ enfawr, fe ddaeth y wlad at ei gilydd ar gyfer y bencampwriaeth mewn ffordd na welwyd o’r blaen.”
Roedd 100,000 yn dilyn y gêm mewn ffordd arall, gyda thua hanner yn gwrando ar y radio a’r hanner arall yn dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu ar-lein.
Yn ôl yr ymchwil, roedd cymaint â 400,000, a oedd yn gwylio’r gêm ar y teledu, hefyd yn ei dilyn mewn ffordd arall yr un pryd.
Roedd 270,000 o’r rhain ar gyfryngau cymdeithasol, 65,000 ar y radio a 70,000 ar y wefan.