Mae’r Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl colli o 3-0 yn ail gymal yr ail rownd ragbrofol yn erbyn Apoel Nicosia nos Fawrth.

Ond dywedodd y rheolwr Craig Harrison ei fod yn “eithriadol o falch” o’i dîm er gwaetha’r siom.

Fawr o gyfle gafodd y Cymry mewn gêm a gafodd ei dominyddu gan y tîm o Gyprus.

Goliau gan Nektarios Alexandrou a Pieros Sotiriou sicrhaodd y fuddugoliaeth, ac fe ddaeth gôl hwyr o’r smotyn gan Tomas de Vincenti yn yr amser a ganiateir am anafiadau.

Gorffennodd y cymal cyntaf yn gyfartal ddi-sgôr yr wythnos diwethaf.

Ond cafodd y Cymry nifer o gyfleoedd i fynd ar y blaen wrth i Jamie Mullan weld ergyd yn cael ei harbed yn yr hanner cyntaf, cyn i ergyd arall gan Adrian Cieslewicz gael ei harbed wedi awr.