Emma Baum (Llun Heddlu Gogledd Cymru)
Fe fydd dyn lleol 25 oed yn ymddangos o flaen llys ynadon Caernarfon heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio mam 22 oed.

Mae David Nicholas Davies yn dod o bentref Trefor, ychydig filltiroedd o Benygroes lle’r oedd Emma Baum yn byw gyda’i mab dwy flwydd oed, Steffan.

Fe gafwyd hyd i gorff Emma Baum fore Llun gydag anafiadau difrifol i’w phen: yn ôl yr heddlu, roedd wedi diodde’ “ymosodiad estynedig”.

Comisiwn Cwynion

Fe ddaeth yn amlwg wedyn bod yr heddlu wedi eu galw i’r ardal am bedwar o’r gloch y bore hwnnw hefyd ac mae’r mater wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n dal i apelio am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau ym Mhenygroes.

Fe gafodd dynes sydd heb ei henwi ei rhyddhau ar fechnïaeth  ar ôl cael ei holi am wyrdroi cwrs cyfiawnder.