Emma Baum Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae dyn 25 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio mam ifanc ym Mhenygroes, Caernarfon.

Cafwyd hyd i gorff Emma Baum, 22, mam i fachgen dwyflwydd oed,  yng ngardd gefn ei chartref  yn Ffordd Llwyndu, Penygroes fore dydd Llun, 18 Gorffennaf.

Dywed yr heddlu ei bod wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w phen yn dilyn ymosodiad.

Fe fydd David Nicholas Davies o Trefor, Caernarfon yn mynd gerbron Llys Ynadon Caernarfon bore dydd Gwener.

Mae dynes a gafodd ei harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i lofruddiaeth Emma Baum wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywed Heddlu’r Gogledd ei bod yn parhau i fod dan ymchwiliad ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: “Er bod unigolyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio fe fydd presenoldeb yr heddlu yn y pentref yn parhau er mwyn tawelu meddyliau’r trigolion a rhoi man cyswllt i unrhyw un a allai roi rhagor o wybodaeth.

“Fe fydd ditectifs yn parhau i wneud ymholiadau yn lleol ac rwy’n apelio o’r newydd ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu i ddeall y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ddod o hyd i gorff Emma i gysylltu â’r heddlu.”

Dylai  unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod U105426.

Gallwch hefyd gysylltu â’r ystafell reoli yn uniongyrchol drwy’r sgwrs we fyw.