Mae ffigurau’n dangos bod nifer y troseddau treisgar yng Nghymru a Lloegr eleni gyda’r uchaf yn y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae nifer y dynladdiadau (homicide), sy’n cynnwys achosion o lofruddiaethau, dynladdiad, dynladdiad corfforaethol a babanladdiad yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth wedi cynyddu.
Bu 571 o achosion yng Nghymru a Lloegr dros y 12 mis hynny, sy’n gynnydd o 6%, neu 34 ers y flwyddyn flaenorol.
Daw’r ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy’n dweud bod trefniadau gwell o fewn heddluoedd o ran cofnodi troseddau yn rhannol gyfrifol am y cynnydd.
Ychwanegodd fod nifer y troseddau dros y tymor hir wedi lleihau ar y cyfan, er gwaethaf y cynnydd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Pwyso a mesur
Yn hanesyddol, mae nifer y bobol sy’n cael eu lladd wedi cynyddu o thua 300 y flwyddyn yn y 1960au cynnar i dros 800 y flwyddyn ar ddechrau’r ganrif hon.
“Ar y cyfan, mae nifer yr achosion o ddynladdiad wedi lleihau yn gyffredinol tra bod poblogaeth Cymru a Lloegr wedi parhau i gynyddu,” meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Cynnydd mewn troseddau rhyw
Bu cynnydd mawr yn nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu cofnodi gan yr heddlu – 21% – gyda chofnodi gwell a pharodrwydd dioddefwyr i roi gwybod am droseddau yn gyfrifol am hyn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Bu cynnydd o 10% mewn troseddau yn cynnwys cyllyll neu arfau miniog, tra bod troseddau yn cynnwys gynnau yn cynyddu 4%.
Ar y cyfan, fe wnaeth yr heddlu gofnodi 4.5 miliwn o droseddau ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016, cynnydd blynyddol o 8%.