Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddynes yn ei 90au farw mewn gwrthdrawiad ger Y Ffôr, Pwllheli, ddydd Mercher.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle ac mae dwy ddynes arall yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gydag anafiadau difrifol, ond nid rhai sy’n bygwth bywyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volkswagen Polo lliw arian a fan Ford Transit wen ar yr A499 yn Y Ffôr. Cafodd yr heddlu eu galw am 3:45 y prynhawn.

Ni chafodd gyrrwr y fan Ford Transit ei anafu.

Apelio am dystion

“Yn anffodus cafodd dynes oedd yn teithio yn sedd teithiwr blaen y Polo ei chyhoeddi’n farw yn lleoliad y ddamwain ac aethpwyd â’r gyrrwr a theithiwr yn y sedd gefn i’r ysbyty am driniaeth,” meddai’r Rhingyll Jason Diamond o Uned Plismona’r Ffyrdd.

“Rwy’n apelio unwaith eto am dystion i ddod ymlaen.  Gofynnir i unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A499 amser y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.”

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod ac agorodd yn fuan wedi 8 o’r gloch nos Fercher.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n gallu cyhoeddi rhagor o fanylion am y ddynes fu farw ar hyn o bryd.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod U106817.