Tân lori wair yn y Sioe Frenhinol, Llun: Eirian Hughes
Fe fu mwy na 20 o ddiffoddwyr tân yn brwydro’r fflamau yn dilyn tân mewn lori wair ar safle’r Sioe Fawr yn Llanelwedd dros nos.

Cafodd diffoddwyr o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r safle toc cyn 1yb bore dydd Mercher, 20 Gorffennaf.

Mae’n debyg na chafodd unrhyw un eu hanafu ond mae’r lori wair wedi’i dinistrio.

Bu’r diffoddwyr ar y safle tan 7yb y bore ma ond maen nhw bellach wedi gadael.